Llywodraeth Cymru 
  
 
 
 Ymateb Llywodraeth Cymru
 Adroddiad PAPAC o'r enw Craffu ar Gyfrifon: Amgueddfa Cymru 2021-22
 07/08/2024

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Dyma ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2024, o'r enw Craffu ar Gyfrifon: Amgueddfa Cymru 2021-22

Cynnwys

Rhagair Ysgrifennydd y Cabinet. 3

1.         Ymateb.. 5

Argymhelliad 1. 5

Argymhelliad 2.. 5

Argymhelliad 3.. 5

Argymhelliad 4.. 6

Argymhelliad 5.. 6

Argymhelliad 6.. 6

Argymhelliad 7.. 6

Argymhelliad 8.. 7

Argymhelliad 9.. 7

Argymhelliad 10.. 7

Argymhelliad 11. 8

Argymhelliad 12.. 8

Argymhelliad 13.. 8

Argymhelliad 14.. 8

 

 

Rhagair Ysgrifennydd y Cabinet

 

 

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus am ei waith craffu ar Adroddiad Ariannol Amgueddfa Cymru 2021 i 2022 a'i adroddiad arno. Rwy'n falch o weld y Pwyllgor yn tynnu sylw at feysydd yr oeddem wedi'u nodi fel blaenoriaethau a lle mae cynnydd eisoes yn cael ei wneud. Mae fy ymateb i bob argymhelliad wedi'i nodi yn y ddogfen hon.

 

Heb un amheuaeth, roedd hwn yn gyfnod heriol i Amgueddfa Cymru. Rwy'n falch bod y Pwyllgor yn fodlon mai'r penderfyniad i geisio sicrhau setliad, yn hytrach na mynd gerbron tribiwnlys, oedd y cam gweithredu cywir. Roedd y setliad yn sicrhau canlyniad rhesymol, gan ganiatáu i bob parti ddatrys y mater cyn gynted â phosibl ac osgoi'r angen am anghydfod hir a fyddai'n debygol o fod wedi arwain at fwy o gost i bwrs y wlad. Rydym ni, ynghyd ag Amgueddfa Cymru, yn parhau i ddysgu gwersi o'r digwyddiadau hyn. Mae adroddiad y Pwyllgor, ynghyd â'r adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a'r adroddiad gan banel yr Adolygiad Teilwredig annibynnol, wedi helpu i lywio'r camau nesaf. 

 

Fel y nododd panel yr Adolygiad Teilwredig yn briodol yn ei adroddiad ym mis Gorffennaf 2023, mae gan Amgueddfa Cymru lawer i'w ddathlu. Mae'n ased enfawr i'r genedl a gem yng nghoron diwylliant Cymru. Mae Amgueddfa Cymru yn cychwyn ar gyfnod newydd a chyffrous dan arweinyddiaeth ei Chadeirydd a'i Phrif Weithredwr newydd. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru i gryfhau'r gwaith gwych sydd eisoes yn cael ei wneud, ac adeiladu arno, i ysbrydoli a hysbysu pobl Cymru.

 

Rwy'n gwbl ymwybodol o'r effaith y mae'r gostyngiad i'w chyllideb refeniw ar gyfer 2024 i 2025 wedi'i chael ar Amgueddfa Cymru. Wrth baratoi Cyllideb y flwyddyn ariannol hon, roedd yn rhaid i Weinidogion wneud penderfyniadau anodd i ail-lunio cynlluniau gwariant yn sylweddol. Yn anffodus, nid oedd hyblygrwydd i atal toriadau i gyllideb Amgueddfa Cymru, fodd bynnag, rwy'n ymrwymedig i gefnogi Amgueddfa Cymru i ffynnu ac nid i oroesi yn unig. Mae Amgueddfa Cymru yn wynebu heriau sylweddol wrth gynnal ei hadeiladau hanesyddol ac eiconig, gydag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn flaenoriaeth. Rydym wedi cael sicrwydd bod y casgliadau cenedlaethol yn ddiogel ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae angen cymorth ychwanegol. Rydym wedi nodi cyllid ychwanegol i alluogi Amgueddfa Cymru i wneud atgyweiriadau brys yn ystod y flwyddyn ariannol hon ac rydym yn gweithio gyda nhw'n gyflym i ddatblygu cynlluniau priodol a nodi opsiynau cyllido posibl ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae staff hynod fedrus Amgueddfa Cymru hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth ofalu am ein casgliadau cenedlaethol ac mae'n rhaid inni roi blaenoriaeth i gadw'r swyddi hynny. Dyma pam yr ydym wedi ailflaenoriaethu cyllid refeniw a ddyrannwyd yn wreiddiol i gyflawni'r strategaeth ddiwylliant yn 2024 i 2025 i leihau nifer y swyddi sy’n cael eu colli yn y sector diwylliant, gan gynnwys yn Amgueddfa Cymru.

 

 

 

 

 

 

 

Ym mis Mai gwnaethom gyhoeddi ein blaenoriaethau drafft ar gyfer diwylliant. Maent yn nodi ein blaenoriaethau a'n huchelgeisiau ar gyfer diwylliant am y chwe blynedd nesaf. Rydym wedi gosod uchelgeisiau heriol i'r sector ac rwy'n gobeithio bod hyn yn arwydd o'm hymrwymiad i barhau i ystyried yr holl gyfleoedd i gefnogi Amgueddfa Cymru fel un o'n sefydliadau cenedlaethol gwerthfawr.

 

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Y Trefnydd a'r Prif Chwip

 

1.            Ymateb

Yn y bennod hon rydym yn nodi ein hymateb i'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus (PAPAC). Mae adroddiad PAPAC yn cynnwys 14 o argymhellion, rhai ohonynt ar gyfer Amgueddfa Cymru. Rydym wedi ystyried pob un o'r argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru yn ofalus ac wedi ymateb i bob un, gan nodi a ydynt wedi cael eu derbyn, eu derbyn mewn egwyddor neu eu gwrthod. Ar gyfer pob ymateb, rydym hefyd wedi nodi a oes unrhyw oblygiadau ariannol.

Mae'r argymhellion ar gyfer Amgueddfa Cymru wedi'u cynnwys yma er cyflawnder. Bydd Amgueddfa Cymru yn ymateb ar wahân i'r rhain.

Argymhelliad 1

Argymhelliad: Dylai Amgueddfa Cymru sicrhau bod yr holl Adroddiadau Ariannol yn y dyfodol yn cael eu gosod yn Gymraeg ac yn Saesneg gerbron y Senedd, ar yr un pryd, ni waeth a ydynt yn cael eu gosod o fewn y cyfnod statudol penodedig ar gyfer gwneud hynny ai peidio.

Dyma argymhelliad i'w ystyried gan Amgueddfa Cymru.

Argymhelliad 2

Argymhelliad: Dylai Amgueddfa Cymru roi copi o’i pholisïau cwyno diweddaraf i’r Pwyllgor, gan amlygu sut y mae’r rhain wedi newid ers adeg y cwynion gwreiddiol a godwyd gan y cyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol a’r cyn-Brif Swyddog Gweithredu.  Dylai Amgueddfa Cymru egluro’r rheswm dros unrhyw ddiwygiadau a nodi rhagor o wybodaeth am y broses o ddiwygio'r polisïau.

Dyma argymhelliad i'w ystyried gan Amgueddfa Cymru.

Argymhelliad 3

Argymhelliad: Dylai Llywodraeth Cymru ystyried gweithredu system o adolygu polisïau cwyno ym mhob un o’i gyrff hyd braich a’r holl gyrff a noddir ganddi, er mwyn sicrhau eu bod yn gadarn ac yn addas i’r diben fel mater o frys.  Dylai Llywodraeth Cymru gynorthwyo’r cyrff hyn i ddiwygio’r polisïau hyn, lle mae materion wedi’u nodi, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor hwn am ei chynnydd o ran archwilio’r polisïau sydd ar waith ar hyn o bryd.

Ymateb: Gwrthod

Cyfrifoldeb Swyddogion Cyfrifeg unigol, ynghyd â pholisïau Adnoddau Dynol eraill, yw polisïau cwyno. Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS) yn darparu cod ymarfer statudol ar weithdrefnau disgyblu a chwyno. Rhaid i gyrff hyd braich ddilyn gweithdrefn lawn a theg yn unol â Chod Ymarfer ACAS ar gyfer unrhyw achosion disgyblaeth neu gwyno. Byddwn yn darparu cyngor lle bo angen.

Goblygiadau ariannol: Byddai costau staff sylweddol wrth adolygu polisïau cwyno pob corff cyhoeddus Llywodraeth Cymru.

Argymhelliad 4

Argymhelliad: Dylai atgyfeiriadau at y Comisiwn Elusennau gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol gael eu cyfleu i’r Pwyllgor hwn cyn gynted â phosibl ar ôl atgyfeiriad, er mwyn sicrhau bod y Pwyllgor yn cael ei hysbysu’n llawn am unrhyw fethiannau llywodraethu neu sefydliadol mewn cyrff cyhoeddus.

Ymateb: Derbyn

Bydd atgyfeiriadau at y Comisiwn Elusennau yn y dyfodol yn cael eu cyfleu i'r Pwyllgor a'r Archwilydd Cyffredinol hyd yn oed os yw'n breifat.

Goblygiadau ariannol: Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol.

Argymhelliad 5

Argymhelliad: Rydym yn cymeradwyo argymhelliad 3 yn Adroddiad er Budd y Cyhoedd yr Archwilydd Cyffredinol ac yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn egluro prosesau o fewn Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru i fynd i’r afael yn glir â materion pan fo’n ymwneud â’r materion hynny ei hun, yn enwedig o ystyried y diffyg cysylltiad rhwng y canllawiau a’r canllawiau gweithdrefn galw-i-mewn.

Ymateb: Derbyn

Byddwn yn mynd i'r afael â hyn yn y fersiwn ddiweddaraf o Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.

Goblygiadau ariannol: Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol.

Argymhelliad 6

Argymhelliad: Dylai Llywodraeth Cymru bennu dyddiad targed penodol ar gyfer cyhoeddi fersiwn wedi’i diweddaru o Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor hwn am y cynnydd y mae wedi’i wneud yn hyn o beth.

Ymateb: Derbyn

Yn ddiweddar iawn, rydym wedi dod o hyd i adnoddau i helpu'r tîm sy'n gyfrifol am ddiweddaru Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru. Mae'r gwaith hwn yn ei gyfnod cynllunio cychwynnol. Byddwn yn darparu amserlen fanylach i'r Pwyllgor ar gyfer diweddaru Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru ym mis Medi 2024.

Goblygiadau ariannol: Ar hyn o bryd efallai na fydd angen unrhyw adnodd ychwanegol (staffio) unwaith y bydd y cynllun wedi'i ddatblygu'n llawn.

Argymhelliad 7

Argymhelliad: Dylai Llywodraeth Cymru rannu gyda’r Pwyllgor ganlyniad y gwaith thematig ar ddatrys sefyllfaoedd tebyg mewn cyrff hyd braich eraill cyn gynted â phosibl.

Ymateb: Derbyn mewn Egwyddor

Credwn y gallai fod camddealltwriaeth wedi bod o'r hyn yr ydym yn ei gynhyrchu. Rydym yn datblygu canllawiau ar gyfer codi pryder neu gŵyn yn erbyn Cadeirydd corff cyhoeddus yng Nghymru. Byddwn yn rhannu'r canllawiau â'r Pwyllgor pan fyddant yn barod.

Goblygiadau ariannol: Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol o ran rhannu'r canllawiau.

Argymhelliad 8

Argymhelliad: Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu manylion i’r Pwyllgor am y broses benodi a fabwysiadwyd ar gyfer penodi cyn-Lywydd Amgueddfa Cymru i rôl newydd yn adolygu Cadw.  Gallai hyn gynnwys yr amserlen ar gyfer cysylltu â’r cyn-Lywydd yn y lle cyntaf, a gafodd unrhyw ddarpar ymgeiswyr eraill eu hystyried ar gyfer y rôl ac, os na, pam ddim. At hynny, dylai'r ymateb nodi a geisiwyd unrhyw gyngor, gan gynnwys cyngor cyfreithiol, fel rhan o'r broses benodi.

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

Gofynnwyd i Roger Lewis gadeirio grŵp gorchwyl a gorffen cyfyngedig o ran amser i adolygu'r trefniadau llywodraethu ar gyfer Cadw. Ni chafodd penodiad y Cadeirydd ac aelodau'r grŵp gorchwyl a gorffen hwn eu hystyried yn benodiadau cyhoeddus. Mae'n arfer cyffredin i aelodau a Chadeiryddion grwpiau gorchwyl a gorffen gael eu dewis oherwydd eu gwybodaeth arbenigol a'u profiad o'r pwnc sydd o ddiddordeb. Daeth Roger Lewis â chymysgedd cryf a pherthnasol iawn o brofiad masnachol, gwasanaeth cyhoeddus a threftadaeth i'r adolygiad. Hefyd, lluniodd grŵp gorchwyl a gorffen cryf ac awdurdodol, gydag arbenigedd cydnabyddedig yn eu priod feysydd, i'w gefnogi yn yr adolygiad.

Goblygiadau ariannol: Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol.

Argymhelliad 9

Argymhelliad: Dylai Amgueddfa Cymru nodi unrhyw argymhellion gan banel yr Adolygiad Teilwredig nad ydynt yn cael eu hystyried mwyach a nodi pam mae hyn yn wir.

Dyma argymhelliad i'w ystyried gan Amgueddfa Cymru.

Argymhelliad 10

Argymhelliad: Dylai Llywodraeth Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar ôl i’r broses o gyflwyno ei model hunanasesu ar gyfer adolygu cyrff hyd braich ddod i ben. Dylai ddarparu rhagor o fanylion am ei gwerthusiad ei hun o fanteision ac anfanteision gweithredu system adolygu o'r fath.

Ymateb: Derbyn

Byddwn yn darparu rhagor o fanylion i'r Pwyllgor unwaith y bydd y Model Hunanasesu wedi'i gyflwyno. 

Goblygiadau Ariannol: Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol o ran darparu'r diweddariad.

Argymhelliad 11

Argymhelliad: Mae’r Pwyllgor yn gofyn i Amgueddfa Cymru egluro sut y mae’n rheoli’r gostyngiad yn nifer ei staff i gwrdd â’r diffyg yn y gyllideb, gan gynnwys darparu gwybodaeth am ei strategaeth neu ei chynllun gweithlu, a chopi ohonynt. Dylai Amgueddfa Cymru hefyd egluro sut y mae’r sefydliad yn rhagweld y bydd ei gweithlu yn edrych yn dilyn y toriadau i nifer y staff.

Dyma argymhelliad i'w ystyried gan Amgueddfa Cymru.

Argymhelliad 12

Argymhelliad: Dylai Amgueddfa Cymru ddarparu gwybodaeth am ei chynllun diswyddo gwirfoddol. Dylai hyn gynnwys y meini prawf ar gyfer asesu ceisiadau i sicrhau bod y sgiliau a'r profiad angenrheidiol yn cael eu cadw gan y sefydliad, yn ogystal â'r gost a'r arbedion a ragwelir, ynghyd â'r amserlen ar gyfer cwblhau’r broses.

Dyma argymhelliad i'w ystyried gan Amgueddfa Cymru.

Argymhelliad 13

Argymhelliad: Dylai Amgueddfa Cymru nodi’r trefniadau sy’n cael eu rhoi ar waith i gefnogi llesiant staff ac, yn benodol, os bydd cymorth ychwanegol, mesurau neu drefniadau penodol yn cael eu darparu yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Dyma argymhelliad i'w ystyried gan Amgueddfa Cymru.

Argymhelliad 14

Argymhelliad: Mae’r Pwyllgor yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau ag Amgueddfa Cymru ynghylch y cyllid ychwanegol sydd ei angen i ddiogelu Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gan gynnwys faint o gyllid ychwanegol fydd ar gael a phryd y bydd y pecyn cyllid hwn yn cael ei roi gerbron y Senedd ar gyfer cytundeb.  Os bydd ystyriaethau'n parhau, byddai'r Pwyllgor yn croesawu hysbysiad bod hyn yn wir, ynghyd ag arwydd o bryd y bydd penderfyniadau'n debygol o gael eu gwneud a phryd y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl gallu rhannu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani.

Ymateb: Derbyn

Ar 10 Gorffennaf, cyhoeddodd cyn-Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol ddatganiad ysgrifenedig[1] ar gyllid ychwanegol i sicrhau bod sefydliadau diwylliannol Cymru yn cael eu diogelu a'u cadw. Yn y datganiad, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ein bod yn darparu cyllid ychwanegol y flwyddyn ariannol hon, gyda £1.3m o hyn wedi'i glustnodi ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd ein buddsoddiad yn sicrhau y gellir gwneud atgyweiriadau yn ystod y flwyddyn ariannol hon wrth i ni barhau i weithio'n agos gydag Amgueddfa Cymru i ddatblygu cynlluniau i fynd i'r afael â'r materion cynnal a chadw ehangach ar y safle dros y blynyddoedd nesaf. Byddwn yn diweddaru'r Senedd a'r Pwyllgor pan fydd yr achos busnes priodol wedi mynd rhagddo.

Goblygiadau ariannol: Mae Amgueddfa Cymru yn amcangyfrif bod angen £30m yn ychwanegol i fynd i'r afael â'r materion cynnal a chadw yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.



[1]Datganiad Ysgrifenedig: Cyllid ychwanegol i ddiogelu a gwarchod trysorau cenedlaethol Cymru (10 Gorffennaf 2024) | LLYW.CYMRU